CBAC / WJEC

CBAC / WJEC

Share

Contact information, map and directions, contact form, opening hours, services, ratings, photos, videos and announcements from CBAC / WJEC, Public & Government Service, 245 Western Avenue, Cardiff (Caerdydd).

Mae CBAC yn brif gorff arholi sy'n darparu cymwysterau ac asesiadau arholiadau ar gyfer ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau annibynnol.

05/10/2026

O fis Medi 2027 ymlaen, bydd ein cymwysterau Project Personol a'r Gyfres Sgiliau Cenedlaethol 14-16 newydd yn rhoi sgiliau a gwybodaeth allweddol i ddysgwyr ledled Cymru ar gyfer bywyd a'r gweithle. 🚀

👉 Archwiliwch y cymwysterau newydd cyffrous hyn: https://bit.ly/3OQmXYH

02/10/2026

Cawsom diwrnod anhygoel yn y Sioe Addysg Genedlaethol 2026 yn Arena Utilita Caerdydd!

Fel noddwyr balch y sioe eleni, roedd ein tîm wrth eu bodd yn cwrdd ag athrawon, arweinwyr a addysg proffesiynol o bob rhan o Gymru.

O sgyrsiau ynghylch ein cymwysterau ac adnoddau i glywed am brofiadau addysgwyr yn uniongyrchol, mae wedi bod yn gyfle gwych i ymgysylltu, rhannu syniadau a dathlu’r gwaith sy’n digwydd ar draws addysg yng Nghymru.

Diolch yn fawr i bawb ddaeth draw i Stondin 157 a 158 i ddweud helo. Roedd yn bleser gweld cynifer o wynebau cyfarwydd, a chwrdd â rhai newydd hefyd!

WJEC's AS and A level in Cymraeg Language and Literature, and in Core Cymraeg Approved by Qualifications Wales 01/10/2026

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cymwysterau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol newydd mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, ac mewn Cymraeg Craidd, wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru, i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027 ymlaen.

“Mae'r cymwysterau hyn yn garreg filltir bwysig, ac rwy'n falch iawn ein bod bellach yn gallu eu rhannu. Wedi'u llunio yn sgil barn athrawon, dysgwyr a rhanddeiliaid drwy gydol y broses ddatblygu" Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Cymwysterau.

Gweler yr holl wybodaeth yma: https://bit.ly/4yA36Pl

WJEC's AS and A level in Cymraeg Language and Literature, and in Core Cymraeg Approved by Qualifications Wales We are delighted to announce that our new AS and A levels in Cymraeg Language and Literature, and in Core Cymraeg have been approved by Qualifications Wales for first teaching from September 2027.  

WJEC's Level 3 Extended Certificate in Travel and Tourism Approved by Qualifications Wales 28/09/2026

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cymhwyster Lefel 3 Tystysgrif Estynedig mewn Teithio a Thwristiaeth wedi'i gymeradwyo gan Cymwysterau Cymru i'w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027.

Mae'r gymeradwyaeth yn garreg filltir bwysig i CBAC ac yn cwblhau ein cyfres lawn o gymwysterau Teithio a Thwristiaeth i Gymru gan ddarparu llwybr dilyniant clir i ddysgwyr o Lefel Mynediad 1 i Lefel 3.

Darllenwch yr erthygl lawn yma:

WJEC's Level 3 Extended Certificate in Travel and Tourism Approved by Qualifications Wales We are delighted to announce that our Level 3 Extended Certificate in Travel and Tourism has been approved by Qualifications Wales for first teaching from September 2027. 

21/09/2026

Wrth i ni baratoi ar gyfer addysgu ein cymwysterau Cenedlaethol 14-16 Ton 3 am y tro cyntaf ym mis Medi 2027, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i gyflwyno'r cyfleoedd newydd cyffrous hyn i'ch dysgwyr.

👉 Dysgwch fwy am ein cymwysterau Ton 3: https://bit.ly/47hOs2D

đź“© Cysylltwch â Sophie Dobbs am gefnogaeth bwrpasol: [email protected]

Cyflwyno testunau sensitif i'r ystafell ddosbarth – Cefnogi athrawon ledled Cymru 16/09/2026

Gan fod ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru wedi'u cynllunio i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru, mae myfyrwyr yn debygol o ddod ar draws testunau sensitif fel rhan o'u taith ddysgu.

Rydyn ni felly wedi datblygu canllawiau newydd ar sut i gyflwyno testunau sensitif yn yr ystafell ddosbarth, i'ch cefnogi chi wrth i chi gyflwyno'r cymwysterau: https://bit.ly/4h2diZz

Cyflwyno testunau sensitif i'r ystafell ddosbarth – Cefnogi athrawon ledled Cymru Gall addysgu a dysgu ei gwneud yn ofynnol i athrawon a dysgwyr ymgysylltu â materion sensitif. Er mwyn cefnogi ymarferwyr sy'n cyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru, rydym wedi datblygu dogfen ganllawiau newydd ar gyflwyno testunau sensitif yn yr ystafell ddosbarth. 

Dysgu Proffesiynol 2026/27: Cadwch eich lle heddiw! 10/09/2026

Rhowch hwb i'ch gwybodaeth am eich pwnc ac am asesu gyda'n Rhaglen Dysgu Proffesiynol 2026/27!

Cafodd y rhaglen lawn ei llunio gyda'r bwriad o gefnogi athrawon bob cam o'r daith wrth gyflwyno cymwysterau. Cofiwch amdani felly, p'un a ydych yn chwilio am sesiynau wyneb yn wyneb neu ar-lein i'ch pwnc, neu hyd yn oed adborth Uwch Arholwyr/Cymedrolwyr ar yr arholiadau eleni:

Dysgu Proffesiynol 2026/27: Cadwch eich lle heddiw! Wrth i ni ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd, rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein Rhaglen Digwyddiadau Dysgu Proffesiynol ar gyfer 2026/27 bellach yn fyw ac ar agor ar gyfer cofrestru. 

Cyflwyno Asesiadau Di-Arholiad yn hyderus – Canllawiau newydd ar gael nawr 07/09/2026

Mae rôl asesiadau di-arholiad yn fwy fwy pwysig yn llawer o'n cymwysterau Gwneud-i-Gymru. Lluniodd ein tîm Datblygu Cymwysterau ganllawiau newydd yn ymdrin â'r gofynion a disgwyliadau sy'n gysylltiedig ag Asesiadau Di-arholiad:

Cyflwyno Asesiadau Di-Arholiad yn hyderus – Canllawiau newydd ar gael nawr Mae Asesiadau Di-Arholiad yn chwarae rhan bwysig mewn llawer o'n cymwysterau Gwneud-i-Gymru, gan roi cyfleoedd i ddysgwyr ddangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth drwy amrywiaeth o ddulliau asesu, o bortffolios a gwaith ymarferol i brojectau sy'n seiliedig ar ymchwil. 

Cyfres lawn o fanylebau cymeradwy Gwneud-i-Gymru Ton 3 ar gael yn awr 02/09/2026

Mae addysg yng Nghymru yn esblygu – cymerwch y cam nesaf gyda manylebau Ton 3 newydd sbon CBAC, sydd bellach ar gael i'w lawrlwytho.

Rydym wedi gweithio gyda dros 100 o ganolfannau a 60+ o gyflogwyr i lunio cymwysterau sy'n cefnogi ffyrdd gwahanol o ddysgu a datblygu sgiliau, gan gynnig mwy o ddewis nag erioed o'r blaen i'r dysgwyr.

Dysgwch fwy a lawrlwythwch y manylebau cymeradwy:

Cyfres lawn o fanylebau cymeradwy Gwneud-i-Gymru Ton 3 ar gael yn awr Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod y gyfres lawn o fanylebau cymeradwy ar gyfer ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3 bellach ar gael i'w lawrlwytho. 

01/09/2026

⚠️ Diweddariad Pwysig: Newidiadau i Ddatganiad Dilysu yr Ymgeisydd a'r Athro

Mae pob Sefydliad Dyfarnu y CGC yn cyflwyno Ffurflenni Datganiadau Dilysu yr Ymgeisydd a'r Aseswr wedi'u diweddaru ar draws pob cymhwyster â chydrannau Asesu Di-arholiad.

Rhaid defnyddio'r fersiynau wedi'u diweddaru ar gyfer pob asesiad a gwblhawyd ar neu ar ôl 1 Medi 2026. Mae hyn yn ofyniad gan y rheoleiddwyr a bydd methu â chydymffurfio yn arwain at ymchwiliad i gamymddygiad.

Want your organisation to be the top-listed Government Service in Cardiff (Caerdydd)?
Click here to claim your Sponsored Listing.

Telephone

Address

245 Western Avenue
Cardiff
CF52YX

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when CBAC / WJEC posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Subscribe

We will notify you when anything happens in Cardiff (Caerdydd).