Addysg Cymru
Gwybodaeth am addysg yng Nghymru. English page: https://www.facebook.com/educationwales
Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg // This page is also available in English
www.facebook.com/educationwales
18/06/2026
Disgwyl dy ganlyniadau TGAU?
Gwna gais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg nawr.
Gall myfyrwyr wneud cais hyd yn oed cyn dewis ble neu beth maen nhw eisiau ei astudio! Llai o boeni, mwy o astudio!
Mwy o fanylion am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg gan gynnwys y meini prawf cymhwystra: https://www.llyw.cymru/cymorth-myfyrwyr-cymru
17/06/2026
Llongyfarchiadau enfawr i holl deilyngwyr Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2025.
Mae'r gwobrau hyn yn dathlu gwaith arbennig unigolion, prosiectau a sefydliadau ledled Cymru, a'r gwahaniaeth cadarnhaol y maent yn ei wneud i fywydau pobl ifanc.
Mae rownd derfynol eleni yn enghraifft wych o'r ymroddiad, y creadigrwydd a'r effaith y mae gwaith ieuenctid yn eu cael mewn cymunedau ar draws y wlad.
Diolch o galon i chi gyd am bopeth rydych yn ei wneud.
Dilynwch y ddolen yn y sylwadau i weld rhestr lawn y teilyngwyr a'r categorïau gwobrau:
Heddiw, amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, ei blaenoriaethau ar gyfer addysg yng Nghymru.
Fel rhan o'r cyhoeddiad, cadarnhaodd y bydd canllawiau statudol newydd ar ddefnyddio ffonau symudol mewn ysgolion yn cael eu cyflwyno yn dilyn ymgynghoriad ym mis Medi eleni, gyda'r bwriad o'u rhoi ar waith yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Bydd y canllawiau yn helpu i roi mwy o gysondeb a chymorth i ysgolion, athrawon ac arweinwyr wrth reoli'r defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol.
Canfu arolwg diweddar o'r gweithlu fod 82% o'r ymatebwyr yn cefnogi cyfyngiadau statudol.
Mwy o wybodaeth yn y sylwadau:
13/06/2026
Camwch yn ôl i ran bwysig o dreftadaeth Cymru gyda’ch dysgwyr cynradd ac uwchradd.
Datgelwch stori ryfeddol y ‘Foneddiges Goch o Bafiland’ gyda’r adnodd diweddaraf ar Hwb.
Teithiwch yn ôl tua 33,000 o flynyddoedd i Benrhyn Gŵyr ac archwilio un o’r safleoedd claddu seremoniol hynaf yng Ngorllewin Ewrop.
Gyda gweithgareddau trawsgwricwlaidd, gall dysgwyr ddarganfod mwy am y darganfyddiad arbennig hwn a’i le yn hanes Cymru.
https://hwb.gov.wales/repository/resource/bb61167d-2e08-4a4a-ab09-b082dfa63552
Beth am fynd â’ch dysgwyr ar antur heb adael yr ystafell ddosbarth? 🌍
Darganfyddwch ystafelloedd trochol 360° ar Hwb sy’n helpu dysgwyr i ddysgu mwy am gredoau a safbwyntiau gwahanol.
Wrth fynd ar y daith, gallant ddarganfod pwyntiau gwybodaeth, trafod cwestiynau mawr a datrys heriau tebyg i ystafell ddianc.
Perffaith ar gyfer dysgwyr 6 i 14 oed.
https://hwb.gov.wales/repository/resource/2ba8be72-93e8-4cd3-8297-bbd5069373aa
Ddoe, cawsom gyfle i gwrdd ag Abby, athrawes Gymraeg a Llysgennad Addysgu Cymru, ac Eben a Phoebe, dysgwyr Blwyddyn 8 a 9 yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw.
Rhannodd Abby pam y dewisodd hi yrfa mewn addysg a'r gwahaniaeth y gall athrawon ei wneud i fywydau pobl ifanc.
Bu Eben a Phoebe hefyd yn sôn am y gefnogaeth a'r ysbrydoliaeth maen nhw'n eu cael gan eu hathrawon bob dydd.
Wedi'ch ysbrydoli? Bydd y cymhelliant i hyfforddi i addysgu pwnc â blaenoriaeth mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru yn cynyddu i £20,000 o fis Medi 2026 ymlaen.
Cliciwch ar y ddolen isod i gael gwybod mwy.
Ydych chi’n ystyried gyrfa mewn addysgu?
O fis Medi 2026, bydd y cymhelliant ar gyfer hyfforddi i addysgu pynciau blaenoriaeth mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru yn cynyddu i £20,000.
Mae’r pynciau cymwys yn cynnwys mathemateg, Cymraeg, y gwyddorau, dylunio a thechnoleg, technoleg ddigidol ac ieithoedd rhyngwladol.
Heddiw, buom yn ymweld ag Ysgol Gymraeg Gwynllyw gyda’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg i glywed mwy am y cyhoeddiad.
Cliciwch y ddolen yn y sylwadau i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais.
11/06/2026
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein gweithlu, gwella recriwtio a chadw staff er mwyn codi safonau yn ein hysgolion. Dyna pam rydym wedi cynyddu’r cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon fel rhan o’n cynllun 100 diwrnod.
Creu’r amodau gorau ar gyfer dysgu. I Gymru gyfan.
10/06/2026
Dylai pob dysgwr deimlo’n werthfawr, wedi’i wrando arno ac wedi’i gynnwys yn ei gymuned ysgol.
Mae Estyn Allan at Bob Dysgwr ar Hwb yn adnodd newydd sy’n eich helpu i gymryd amser i fyfyrio ar eich dull o gynhwysiant a thegwch, ac i ganfod ffyrdd ymarferol o gynyddu cyfranogiad, perthyn a chyrhaeddiad ar gyfer pob dysgwr.
Os ydych yn chwilio am ffyrdd i sbarduno sgyrsiau â staff neu i adolygu eich arfer cynhwysol, mae’r pecyn yn cynnig awgrymiadau ac offer hunanwerthuso i gefnogi eich siwrnai.
Dysgwch fwy: https://hwb.gov.wales/repository/resource/c2f44d1b-54fa-4609-bda8-47566e6e679f
09/06/2026
Mae Addysg Cymru bellach ar LinkedIn.
Education Wales is now on LinkedIn.
https://www.linkedin.com/showcase/addysg-cymru-education-wales
Click here to claim your Sponsored Listing.
Category
Contact the organisation
Website
Address
Cardiff
CF103NQ