Dai Lingual

Dai Lingual

Share

Edits, broadcasts and translates...yn golygu darlledu a chyfieithu. Online media consulting / cyfryngau Cymraeg

whatnextcymru | Twitter, Facebook | Linktree 04/03/2026

Bore dMercher 4ydd o fis Mawrth ( arlein : )

whatnextcymru | Twitter, Facebook | Linktree We are working to strengthen the role of arts and culture in society.

26/02/2026

Cerdd-ladrad?

Mae cerddor yn ardal Penarth wedi bod yn gwirio ei gyfrifiadur i weld a e-bostiodd unrhyw gynhyrchwyr Hollywood yn ddiweddar, wedi iddo wylio'r ffilm arobryn 'One Battle Another' a chlywed rhythm roedd yn adnabod; dryms oedd yn swnio'n debyg iawn i ddechrau trac yr oedd eisoes wedi'i ysgrifennu yn 2024:

'Helo Vera' via SoundCloud Dai Lingual
https://soundcloud.com/dailingual/hello-vera
..sef demo o gân a ryddhawyd yr wythnos hon ar iTunes, Deezer, S**tify ac ati fel rhan o EP 'Grangetown!' Williams Win, a gynhyrchwyd gan Frank Naughton yn Grangetown, Caerdydd.

Dywedodd Williams,

“Ydy, mae'n un frwydr ar ôl y llall ar hyn o bryd. Wedi dweud hynny, diolch i fy nghyhoeddwyr, defnyddiwyd fy nghân 'On the Buses' gan ddrama Channel 4 yn yr hydref ac mae hynny wedi talu am fy holl bysiau ers hynny."

Diolch i Rhys Mwyn BBC Radio Cymru am gynnwys 'Grangetown' ar ei restr chwarae reggae yn hydref 2024. Diolch hefyd i Angharad Davies am chwarae "Helo Vera" ar raglen Cymraeg Bro Radio.

Mae'r traciau oll ar gael lawrlwytho am ddim o: https://nastyvulturerecords.bandcamp.com/album/grangetown-ep.

Am fwy o wybodaeth, edrychwch am 'Williams Win' ar y llwyfannau rhithiol arferol, neu dewch i gyswllt, diolch!

23/10/2025

Cystadleuaeth gyntaf Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel Royal Welsh College of Music & Drama - Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru : Hyrwyddo creadigrwydd, dathlu Cymru a chefnogi perfformwyr sy’n dod i’r amlwg

Gan ddathlu byd amrywiol adrodd straeon drwy gân, mae Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel, mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn hyrwyddo lleisiau talentog newydd, ac yn arddangos potensial mynegiant pwerus drwy wahanol ieithoedd.

Gan gystadlu am wobr o £15,000, bydd cantorion israddedig sydd wedi’u henwebu o brif ysgolion cerdd y DU yn perfformio rhaglen o dri darn, cân gelf o’u dewis, cân sy’n dathlu eu hiaith a’u diwylliant eu hunain, a chân osod Cymraeg, Pan Ddaw’r Nos gan Meirion Williams.

Ac yntau’n dod o wlad y gân, mae Bryn yn angerddol am ei dreftadaeth ddiwylliannol, ac yn enwedig Caneuon Cymraeg. Ar ôl ennill Gwobr y Gân cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC ym 1989, ac yna ei yrfa glodwiw fel canwr opera, mae’n arbennig o bwysig bod y wobr hon yn ei enw yn canolbwyntio ar y gelfyddyd sydd ei angen ar gân.


Yn ymuno â Bryn, y Prif Feirniad, mae panel rhyngwladol nodedig o arbenigwyr canu ac opera sef y cynhyrchydd cerddoriaeth glasurol o’r Almaen Ute Fesquet, a arferai fod yn Deutsche Grammophon, John Fisher, cyn-Gyfarwyddwr Gweinyddu Cerddoriaeth yn Metropolitan Opera a chyn-Gyfarwyddwr Artistig WNO, y mezzo-soprano o Awstria Angelika Kirchschlager, a’r arweinydd opera rhyngwladol ac Arweinydd Llawryfog Opera Cenedlaethol Cymru Carlo Rizzi.

Cynhelir dosbarthiadau meistr hefyd gyda’r soprano Rebecca Evans CBE a Richard Hetherington, Pennaeth Cerddoriaeth yn y Tŷ Opera Brenhinol, a sesiwn Holi ac Ateb gyda’r soprano April Koyejo-Audiger a’r tenor ifanc o Gymru Ryan Vaughan Davies, a gynrychiolodd ei wlad yn ddiweddar yng nghyngerdd gala Canwr y Byd Caerdydd.

Mae’r rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, y cyhoeddir eu henwau’n fuan, yn gantorion ifanc o brif ysgolion cerdd y DU sy’n cwblhau eu hastudiaethau israddedig ac yn symud i hyfforddiant gradd meistr pwysig a fydd yn eu rhoi ar y llwybrau i yrfaoedd proffesiynol.

‘Rwy’n llawn cyffro i gael y wobr y gân anhygoel hon yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel rhan o’n cronfa newydd, Cronfa Syr Bryn Terfel. Pan newidiodd fy nghanu o fod yn ddiddordeb er pleser yn rhywbeth mwy difrifol, newidiodd fy holl safbwynt mewn amrantiad. Fe wnes i ymroi i ddysgu mwy a mwy am draddodiad y gân Gymraeg, a daeth perfformio a recordio’r caneuon hyn yn rhywbeth angerddol i mi.

Yna, agorodd yr angerdd hwn y drysau i’r Lied Almaeneg, y Chanson Ffrangeg, a’r gân Saesneg, gan arwain at y gystadleuaeth wych honno yng Nghanwr y Byd Caerdydd ym 1989 lle’r oeddwn i’n ddigon ffodus i ennill Gwobr y Gân.


Bydd un gân Gymraeg ysbrydoledig ar gyfer yr holl gystadleuwyr yn rhan annatod o’r gystadleuaeth newydd hon - a phwy a ŵyr, efallai mai dyma fydd y catalydd i fyfyrwyr ddarganfod angerdd dros y caneuon hyn, a dros ganu mewn iaith arall, sef y Gymraeg - elfen gofiadwy arall yn eu taith artistig.

Rydw i wrth fy modd fy mod, o’r diwedd, yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl. Gwaith caled, ymroddiad a rhagoriaeth fydd nod terfynol y myfyrwyr, ond bydd un ohonynt yn ennill y wobr ystyrlon hon a fydd yn eu helpu i ddatblygu eu breuddwydion a’u dyheadau ymhellach fyth mewn cyfnod o ansicrwydd ofnadwy yn y celfyddydau.

Pob hwyl i’r holl gystadleuwyr a llongyfarchiadau i’r Gronfa sy’n datblygu’n barhaus. Gadewch i ni wneud hon yn llwyddiant mawr, nawr ac i’r dyfodol.’

Syr Bryn Terfel

Cyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC, Tim Rhys-Evans:

‘Nid yw dewis bywyd yn y celfyddydau byth y llwybr hawsaf, felly mae’n hollbwysig ein bod yn annog cenedlaethau’r dyfodol o artistiaid ifanc talentog i ymuno â ni - i arloesi, i greu gwaith eithriadol, ac i helpu i siapio diwydiant sy’n parhau i gael effaith gadarnhaol.

Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn angerddol am sicrhau bod pobl ifanc o bob rhan o Gymru, y DU a ledled y byd, yn darganfod y cyfoeth diwylliannol sydd gan y wlad hon a’r Coleg hwn i’w gynnig. Ochr yn ochr â Bryn, mae dathlu, hyrwyddo a rhannu’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn ganolog i’r genhadaeth honno.’


Rydym wrth ein bodd ac wedi ein hysbrydoli i gydweithio ag ef, gan gefnogi prosiectau fel Gwobr y Gân, i ddod â’i weledigaeth yn fyw, a gyda’n gilydd drwy Sefydliad Cronfa i roi rhywbeth yn ôl i Gymru.’

Cyn y rownd derfynol ar ddydd Sadwrn 8 Tachwedd, cynhelir preswyliad tri diwrnod wedi’i ariannu’n llawn yn y Coleg, a fydd yn cynnwys darlith gan yr Archdderwydd, y bardd a’r ieithydd, Mererid Hopwood, gweithdai symud, hyfforddiant o ran y Gymraeg gyda Bryn ei hun, amser unigol gyda mentoriaid, a dosbarthiadau meistr.

Caradog Williams ac Iwan Teifion Jones fydd y pianyddion, a fydd yn arwain ac yn perfformio gyda’r cantorion ifanc wrth iddynt ddod â’r caneuon hyn yn fyw.

LLUN: Edmund Choo

24/07/2025

dMercher 6ed Awst

Sesiwn arbennig i drafod dynion yn Eisteddfod Wrecsam

Eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam bydd elusen Meddwl.org yn cynnal trafodaeth arbennig ar iechyd meddwl dynion.

Mae trafodaethau agored trwy gyfrwng y Gymraeg am iechyd meddwl a chyflyrau gwahanol iechyd meddwl wedi dod yn llawer mwy cyffredin dros y ddegawd diwethaf. Fodd bynnag, mae trafodaethau penodol am iechyd meddwl dynion yn llai cyffredin, ac mae stigma am drafod gwahanol gyflyrau yn parhau.

Dyma, o bosib, fydd y drafodaeth gyntaf o’i math ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd yn sgwrs onest a ffraeth yng nghwmni pedwar sydd wedi profi cyflyrau iechyd meddwl mewn gwahanol ffyrdd.


Bydd awdur y fenter ‘Sut mae Dad’ Aled Vaughan Edwards a’r cerddor, dramodydd a chynhyrchydd cynnwys Iestyn Gwyn Jones yn cyfrannu at drafodaeth banel, gyda mwy o gyfranwyr i’w cyhoeddi ar blatfform Instagram a Facebook meddwl.org dros y dyddiau nesaf.

Bydd rhai cyfranwyr yn sôn am sut yr aethon nhw ati i ganfod cymorth a gwella, a bydd cyfle i’r gynulleidfa holi cwestiynau ac i ddysgu am ffynonellau gwahanol o gymorth, yn ogystal â gwaith meddwl.org

Dywedodd Iestyn: “Dwi wedi bod yn delio gydag iselder ers o’n i tua 10 mlwydd oed ac wedi wynebu sawl her gyda’n iechyd meddwl wrth dyfu’n hŷn.

“Wnes i ddechrau gan rannu fy mhrofiadau personol trwy cerddi ar y cyfryngau cymdeithasol. Erbyn hyn dwi’n trio bod yn reit agored gyda fy iechyd meddwl gan geisio torri’r stigma - yn enwedig o ran dynion yn rhannu a thrafod eu teimladau. Dwi hefyd yn defnyddio cyfansoddi cerddoriaeth ac ysgrifennu creadigol fel ffordd o rannu a phrosesu fy nghyflwr meddyliol.

“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yn y sgwrs bwysig yma gyda meddwl.org ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam.”

Dywed Hywel Llŷr Jenkins o meddwl.org: "Mae gen i barch mawr at ddynion sy'n codi eu llais a chwilio am gymorth pan maent yn profi cyfnodau anodd gyda salwch meddwl - mae'n arwydd o gryfder. Mae dal angen annog eraill i gael y cymorth maent ei angen, ac yn haeddu derbyn. Mae'r digwyddiad yma yn gyfle gwych i gael trafodaeth am sut orau i wneud hynny."

Cynhelir y drafodaeth banel am 3.30pm ar ddydd Mercher y 6ed o Awst ym Mhabell y Cymdeithasau.

Cysylltwch gyda Meddwl am fwy o fanylion.

Betsi Cadwaladr

You can call it AI NEU Deallusrwydd Artiffisial 04/06/2025

Gofynnais Co-pilot Microsoft i sgwennu 1500 gair ar hanes ymgyrchu dros y Gymraeg yng nghymunedau Cymru, dyma oedd ei ateb:

https://www.linkedin.com/pulse/you-can-call-ai-neu-deallusrwydd-artiffisial-david-wyn-xeeae

?

You can call it AI NEU Deallusrwydd Artiffisial Nes ofyn i Co-Pilot ysgrifennu 1,500 gair am ymgyrchu iaith Gymraeg, dyma oedd beth ganddo i gynnig: Mae hanes ymgyrchoedd dros yr iaith Gymraeg yng Nghymru yn gyforiog o frwydrau, penderfyniadau beiddgar a llwyddiannau nodedig. O ymgyrchoedd ar lawr gwlad i bolisïau llywodraethol, mae’r Gymraeg ...

Photos from What Next Cymru's post 30/04/2025
05/03/2025

Bore 'ma 8.30yb

5/3/25 0830-0930 Diweddariad Wal Goch Festival For Football Lovers Update

Bore Mercher bydd cyfle i glywed y diweddara o ran gweithgaredd diwylliannol Russell Todd a Tim Hartley a Russell Todd o'r Ŵyl Wal Goch.

/

This Wednesday there's the chance to catch up with Russell Todd and Tim Hartley of the "Gŵyl Wal Goch" Festival of Football Culture . It will be a ball!

YMUNWCH / JOIN via https://linktr.ee/whatnextcymru
diolch Eisteddfod Genedlaethol Cymru

13/12/2024

Curo Celyn:

Traddodiad Nadoligaidd Cymreig tipyn yn llai adnabyddus yng Nghymru yw Curo Celyn ar Ddydd San Steffan. Mae'n nodedig am ei ddefnydd treisgar o'r planhigyn celyn.

Yn gynnar ar fore Gŵyl San Steffan, byddai dynion a bechgyn ifanc yn casglu canghennau o gelyn ac yn crwydro drwy'r pentrefi lleol i daro breichiau a choesau merched ifanc nes iddynt waedu.

Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, anlwcus tu hwnt oedd yr olaf i godi o'r gwely, a fyddai wedyn yn cael ei churo gyda'r canghennau celyn hyn. Credwyd bod y traddodiad Nadoligaidd creulon yn dod â lwc dda ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Yn ffodus i ferched ifanc a'r rhai sy'n hoffi codi'n hwyr yng Nghymru, i raddau helaeth diflannodd y traddodiad o g**o celyn ar ddiwedd y 19eg ganrif.

14/10/2024

Montenegro -sef “Y Mynydd Du” yn dod i Gymru

“Visa is £200” medde Mr Montenegro tra’n cael ei gyfweld ar Radio Cymru yn Saesneg i esbonio pam fod cyn lleied ohonynt wedi cwblhau’r daith o ddwyrain Ewrop. Hynny cyn cael ei ofyn i eistedd lawr wrth sefyll lan i weld cic gornel cyntaf Cymru

12’ Croesiad Wilson, ai Cullen neu Burns sydd ar ei ben ei hun? Hyn yn ddigon i ddeffro ‘r Canton Stand, Eisteddle sy’n gartre i Eistedddfotwyr o fri. “Please don’t take me home!”

Y crwt o’r Mynydd Du yn bloeddio ar ei ben ei hun cyn i Brooks diffyg-danio ar y golgeidwad. Yna Brooks sy’n pallu cymryd ergyd, cyn i Wilson dangos y ffordd wedi 16’.

Nico yn croesi heibio pawb y funud nesa..”I love you baby…” Ife drymr newydd sy’n llwyddo i gael y Canton Stand i …swingio?

Cyn hired oedd JC…sori JA ei hun wedi bod yn ddifancoll i Gymru fel nad oedden i’n nabod seiniau peraidd “Give me hope Joe Allen…” wedi 26’.

Yna wedi’r hanner awr…Wilson yn ergydio y golgeidwad yn gorymestyn a chornel i Gymru…tacl anhaclus yn arwain at gic o’r smotyn.

57m Montenegro sy’n taro’r traws. Yna chwibiadau megis adar mewn sŵ i’w clywed, paradwys o 1-0 sydd dal i deyrnasu.

60’ Cymeradwyaeth y noson i JA, munud cyn i Burns cael gwared ar gyffion ei amddiffynwr i geisio gosod gôl wrth draed unrhywun o’r Cymry - neb yn benodol yn anffodus.

66’ Y Montenegwyr yn cydadrodd am y tro cynta ond ofer oedd yr ymdrech, megis trosgais efo’r bêl anghywir.

71’ “ He commits players “ medde rhywun yn y dorf ac yn wir mae angerdd Sorba Thomas i’w edmygu. Ond troi ei gen at y bel mae’n gwneud nid 5m wedi hynny, cyn ailadrodd y tric yna i asio’r bêl i ddiogelwch y dorf.

77 Cabango yn cael bang ac yn ildio cic rydd serch ymdrech rymus yng nghanol y cae.
Munud yn ddiweddarach cyfres o basus yn arwain at gyfle euraidd i Harris ond ni gladdodd y bêl i’r rhwyd.

27,326 a welodd y gêm. Dewiswn ddynion i gynrychioli ein llwyth ac mae yna lwyth o ddisgwyliadau ar eu hysgwyddau ystwyth, ac mae ambell un yn bwysicach heno na’r lleill, megis Nico Williams sy’n aberthu ei hun wrth draed y gelyn i atal y bêl yn rhwydo cyn cael saib wrth y pyst fel petai’n chwarae yn y parc tu ôl i’w dŷ. Dyn y noson o bosib? Ond Wilson bydd yn cael ei nodi fel sgoriwr y noson, a bydd y clod mae hynny’n denu yn hollol haeddiannol.

Photos from Cymraeg i Oedolion Gwent Welsh for Adults's post 09/10/2024
27/09/2024

Yr wythnos hon yn 1968:

"Pan oedd a Mr a Mrs Emrys Davies yn brysur yn paratoi danteithion ar gyfer te parti yn Nhy'r Ysgol, Tirymynach, ger y ...galwodd dau swyddog o Fwrdd Trydan Glannau Myrswy...a throi cyflenwad trydan y cartref i ffwrdd."



/ This week in 1968:

"When Mr and Mrs Emrys Davies were busy preparing treats for a tea party at Ty Ysgol, Tirymynach, near Y Bala... two officials from the Mersey Electricity Board called... and turn off the household's electricity supply."

Want your business to be the top-listed Media Company in Cardiff?
Click here to claim your Sponsored Listing.

Telephone

Address

Cardiff